Quantcast
Channel: Wrexham Council Vacancies
Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Athro / Athrawes Cyfnod Mamolaeth (Bro Alun)

$
0
0
[CLOSING DATE: Fri, 27 Apr 2018] Ysgol Bro Alun Rhodfa Delamere, Gwersyllt Wrecsam, LL11 4NG 01978 269580 mailbox@broalun-pri.wrexham.sch.uk Pennaeth: Mr. Osian Jones Nifer ar y gofrestr: 180 (210 ym Medi 2018) Athro / Athrawes Cyfnod Mamolaeth Llawn Amser – Prif Raddfa Gyflog Dyddiad Cychwyn: Medi 1af 2018 Rydym yn chwilio am athro / athrawes brwdfrydig i lenwi swydd yn addysgu dros gyfnod mamolaeth ym Mlwyddyn 5 yr ysgol. Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Bro Alun wedi’i lleoli ym mhentref Gwersyllt ar gyrion tref Wrecsam. Agorwyd yr ysgol ym Medi 2013 a gallwn gynnig adeilad ac adnoddau o’r radd flaenaf ac awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r disgyblion sy’n cyfrannu’n helaeth at lwyddiant yr ysgol. Ers Medi 2013 mae’r ysgol yn ran o ffederasiwn efo Ysgol Plas Coch yn Wrecsam. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon rhugl eu Cymraeg. Cysyllter â’r Pennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â’r ysgol Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg. I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001 neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) DYDDIAD CAU: Dydd Gwener, Ebrill 27ain CYFWELIADAU: Dyddiad i’w gadarnhau

Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Trending Articles



<script src="https://jsc.adskeeper.com/r/s/rssing.com.1596347.js" async> </script>