[CLOSING DATE: Mon, 9 Jul 2018] Ysgol Bodhyfryd, Ffordd Brynycabanau, Wrecsam LL13 7DA
01978 351168
mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth Gweithredol: Miss Nerys Wyn Davies
Swydd Dysgu Cyfnod Sylfaen (Blwyddyn 1 a 2)
Cyfnod Mamolaeth
PRC/URC
Swydd Mamolaeth Cyfnod Sylfaen (Blwyddyn 1 a 2) i ddechrau mis Medi 2018.
Rydym yn chwilio am athro / athrawes brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno a thîm gweithgar, hapus a gofalgar Ysgol Bodhyfryd. Bydd y sawl a benodir i’r swydd yn derbyn cefnogaeth gan dîm o staff profiadol a chefnogol, a bydd yn gyfle i ddatblygu eich gyrfa yn yr ysgol Gymraeg, drefol hon sydd wedi ei lleoli ar gyrion tref Wrecsam. Dylai ymgeiswyr nodi eu profiad, eu cryfderau cwricwlaidd a'u diddordebau all-gyrsiol yn eu ffurflen gais.
Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu i ymweld â’r ysgol, cysylltwch â’r Pennaeth, Nerys Wyn Davies yn y dulliau arferol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001
neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
Dyddiad cau: Dydd Gwener, Gorffennaf y 9fed 2018
↧