[CLOSING DATE: Mon, 16 Jul 2018] Ysgol Bro Alun
Rhodfa Delamere
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4NG
01978 269580
mailbox@broalun-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mr. Osian Jones
Nifer ar y gofrestr: 177 (229 ym Medi 2018)
Cymhorthydd Addysgu 1 i 1– Lefel 2 (Contract blwyddyn)£11,925 - £12,601
31 awr yr wythnos + 5 diwrnod HMS y flwyddyn (os yn bosib)
Dyddiad Cychwyn: Medi 1af 2018
Rydym yn edrych am gymhorthydd addysgu brwdfrydig ac egniol i ymuno â’r tim addysgu ym Mro Alun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi disgybl o fewn dosbarth yn yr Adran Iau.
Mae Ysgol Bro Alun yn ysgol gyfrwng Gymraeg newydd ym mhentref Gwersyllt ac yn ran o ffederasiwn efo Ysgol Plas Coch. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r plant yn ogystal â’r adnoddau diweddaraf.
Gwahoddir ceisiadau gan gymhorthyddion rhugl eu Cymraeg.
Cysyllter â’r Pennaeth neu’r Dirprwy Bennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â’r ysgol
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001
neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
DYDDIAD CAU: 12:00pm, Dydd Llun, Gorffennaf 16eg
CYFWELIADAU: Dyddiad i’w gadarnhau
↧