[CLOSING DATE: Mon, 22 Oct 2018] Ysgol Bro Alun
Rhodfa Delamere
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4NG
01978 269580
mailbox@broalun-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mr. Osian Jones
Nifer ar y gofrestr: 233
Swyddog Gweinyddol Rhan amser – Lefel 2
Graddfa L04 £4,684 - £4,950
12.5 awr yr wythnos (2 ddiwrnod)
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosib
Rydym yn edrych am aelod o staff i weithio yn nerbynfa brysur ein hysgol; person a fyddai’n barod i weithio’n hyblyg ar ystod o dasgau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson trefnus fydd yn medru gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n hysgol. Os oes gennych sgiliau gweinyddol, cyfrifiadurol a chyfathrebu da a fod gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn ysgol, dyma’r swydd i chi! Cynigir hyfforddiant wedi ei deilwra i ofynion yr ymgeisydd llwyddiannus er mwyn medru cyflawni’r swydd.
Mae Ysgol Bro Alun yn ysgol gyfrwng Gymraeg newydd ym mhentref Gwersyllt ac yn ran o ffederasiwn efo Ysgol Plas Coch. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r plant yn ogystal â’r adnoddau diweddaraf. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg. Cysyllter â’r Pennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â’r ysgol
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001
neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
DYDDIAD CAU: Dydd Llun, Hydref 22ain
CYFWELIADAU: Dyddiad i’w gadarnhau
↧