Quantcast
Channel: Wrexham Council Vacancies
Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Athro / Athrawes Cyfnod Mamolaeth

$
0
0
[CLOSING DATE: Wed, 24 Oct 2018] Ysgol Plas Coch Ffordd Stansty, Wrecsam, LL11 2BU 01978 311198 mailbox@plascochpri.wrexham.sch.uk Pennaeth: Mr. Osian Jones Nifer ar y gofrestr: 333 Athro / Athrawes Cyfnod Mamolaeth Rhan Amser (5 bore) – Prif Raddfa Gyflog Dyddiad Cychwyn: Tachwedd 12fed 2018 neu cyn gynted â phosib wedi hynny Rydym yn chwilio am athro / athrawes brwdfrydig i lenwi swydd yn addysgu dros gyfnod mamolaeth yn nosbarth Meithrin yr ysgol, pump bore yr wythnos. Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Plas Coch wedi’i lleoli ar gyrion tref Wrecsam. Ers Medi 2013 mae’r ysgol yn ran o ffederasiwn efo Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r plant sy’n cyfrannu’n helaeth at lwyddiant yr ysgol. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon rhugl eu Cymraeg. Cysyllter â’r Pennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â’r ysgol Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg. I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001 neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) DYDDIAD CAU: Dydd Mercher, Hydref 24ain CYFWELIADAU: Dyddiad i’w gadarnhau

Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Trending Articles



<script src="https://jsc.adskeeper.com/r/s/rssing.com.1596347.js" async> </script>