[CLOSING DATE: Fri, 8 Mar 2019] Swyddog Cofrestru
30 awr yr wythnos, parhaol
Cyflog L06, £19,446 - £21,693 y flwyddyn (pro rata)
Mae Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam yn dymuno penodi Swyddog Cofrestru i ymgymryd ag ystod lawn o ddyletswyddau. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y Swyddfa Gofrestru brysur yn Wrecsam. Yr oriau gweithio fydd 30 awr yr wythnos, dros 5 diwrnod.
Bydd y dyletswyddau yn cynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a pheth gwaith dinasyddiaeth. Bydd bod yn dyst i hysbysiadau o briodas / partneriaeth sifil, ynghyd â chynnal ystod eang o seremonïau eraill hefyd yn rhan o rôl a dyletswyddau deiliad y swydd.
Bydd gennych safon dda o addysg a phrofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Byddwch yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus, ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau technegol / statudol ac yn ddelfrydol bydd gennych ddealltwriaeth ymarferol o’r rheoliadau statudol ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil.
Mae hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a chywirdeb yn ffactorau allweddol o fewn y swydd hon. Mae trwydded yrru lawn a mynediad at gar yn hanfodol gan y bydd gofyn i chi deithio i leoliadau eraill pan fo’r angen.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Susan Lloyd ar 01978 292670.
I gael pecyn cais, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Adnoddau Dynol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY dros y ffôn 01978 292012, Cyfnewid Testun: 18001 01978 292012 neu anfonwch e-bost at hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu lawr lwythwch a llenwch ffurflen gais pdf sydd ar gael ar y wefan.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 8th Mawrth 2019
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
↧