[CLOSING DATE: Fri, 29 Mar 2019] Ymgynghorydd Gwasanaethau Cefnogaeth a Chwsmeriaid – Adran Tai ac Economi
L04 £17,007 - £17,972
Swydd Barhaol, Llawn Amser
Oes gennych chi’r sgiliau i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid ar y lefel uchaf bob amser ac yn credu mewn trin pawb fel unigolion? Oes gennych chi brofiad o fod y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cleientiaid, yn gallu delio efo galwadau ac ymholiadau yn broffesiynol ac mewn modd amserol?
Yna gallech fod yn Ymgynghorydd Gwasanaethau Cefnogaeth a Chwsmeriaid yn yr Adran Tai ac Economi.
Mae’r swydd gyffrous yma yn gweithio yn yr Adran Tai ac Economi sy’n gyfrifol am gynnal, chadw a gwella 11,300 o dai cyngor. Bydd y swydd yn gweithio yn y Ganolfan Tai a Gwasanaeth Cwsmeriaid. Mae’r Ganolfan Wasanaeth yn delio efo amrywiol alwadau, gan gynnwys gwneud diagnosis a phrosesu atgyweiriadau sydd eu hangen yn eiddo’r cyngor ynghyd ag amrywiol ymholiadau eraill sy’n ymwneud â’r Adran Tai ac Economi.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Gemma Jones, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cefnogaeth a Chwsmeriaid ar 01978 315408 neu drwy anfon neges e-bost at gemma.jones@wrexham.gov.uk.
I gael pecyn cais, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Adnoddau Dynol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY, dros y ffôn 01978 292012/Tecstio 18001 01978 292012, neu anfonwch e-bost at hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu lawr lwythwch a llenwch y ffurflen gais pdf sydd ar gael ar y wefan.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
↧