Quantcast
Channel: Wrexham Council Vacancies
Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Athro / Athrawes - Ysgol Bodhyfryd (FTT - EXT)

$
0
0
[CLOSING DATE: Wed, 10 Apr 2019] Ysgol Bodhyfryd, Ffordd Brynycabanau, Wrecsam LL13 7DA 01978 351168 mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk Pennaeth Gweithredol: Miss Nerys Wyn Davies Swydd Dysgu Cyfnod Allweddol Dau (Mamolaeth) (Blwyddyn 3 a 4) - PRC/URC) Swydd Mamolaeth Cyfnod Allweddol Dau (Blwyddyn 3 a 4) i ddechrau ar Ddydd Llun, Mehefin y 3ydd 2019. Rydym yn chwilio am athro / athrawes brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno a thîm gweithgar, hapus a gofalgar Ysgol Bodhyfryd. Bydd y sawl a benodir i’r swydd yn derbyn cefnogaeth gan dîm o staff profiadol a chefnogol, a bydd yn gyfle i ddatblygu eich gyrfa yn yr ysgol Gymraeg, drefol hon sydd wedi ei lleoli ar gyrion tref Wrecsam. Dylai ymgeiswyr nodi eu profiad, eu cryfderau cwricwlaidd a'u diddordebau all-gyrsiol yn eu ffurflen gais. Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu i ymweld â’r ysgol, cysylltwch â’r Pennaeth, Miss Nerys Wyn Davies yn y dulliau arferol. Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg. I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001 neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) Dyddiad cau: Dydd Mercher, Ebrill y 10fed 2019

Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Trending Articles