[CLOSING DATE: Fri, 28 Jun 2019] Athro/Athrawes Meithrin
Rhan Amser (0.5)
Contract dros dro - Blwyddyn
Prif Raddfa Gyflog
I ddechrau Medi 2019
Mae Min y Ddôl yn ysgol anogol sydd yn meithrin a datblygu sgiliau pob un plentyn i’w galluogi i fod yn unigolion medrus a hyderus gyda pharch a balchder yn eu llwyddiannau, eu hiaith a’u treftadaeth. Yn Ysgol Min y Ddôl mae pawb yn llwyddo.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ysbrydoledig, frwdfrydig ac ymroddedig gyda dealltwriaeth cadarn o’r addysgeg y Cyfnod Sylfaen. Fy fydd y person â apwyntir yn cyfoethogi’r dysgu ac addysgu gyda llais y dysgwyr. Gallwn cynnig awyrgylch ac ethos cefnogol a charedig.
Croesawir ceisiadau gan athrawon sydd newydd orffen yn y coleg ac â fydd yn cychwyn eu blwyddyn ANG. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon rhugl eu Cymraeg.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweld â’r ysgol, cysylltwch â’r Brifathrawes.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
I wneud cais: Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam,16 Stryd yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001 neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
Anfonwch eich ffurflen gais at Brifathrawes yr ysgol.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr cymwys, heb dalu unrhyw sylw i hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd, ffydd nag oedran.
Noder fod holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch
(Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
DYDDIAD CAU : Dydd Mawrth, 28ain o Mehefin 2019
ARSYLWADAU GWERSI A CHYFWELIADAU: Wythnos yn dechrau Gorffennaf 8fed, 2019
↧