[CLOSING DATE: Thu, 19 Sep 2019] Ysgol I D Hooson
Rhossllannerchrugog
LL14 2DX
Pennaeth : Mr Rhodri Jones
Athro/Athrawes Cyfnod Sylfaen
Prif Raddfa Gyflog
Dros dro hyd at Awst 31ain 2020
I ddechrau Tachwedd 4ydd 2019
Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi ymarferydd ystafell ddosbarth effeithiol ac ymroddgar i addysgu yn y cyfnod sylfaen.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gallu:
• Gwella safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr.• Darparu profiadau dysgu ysgogol a heriol ar gyfer pob disgybl.• Bod yn barod i weithio yn effeithiol fel rhan o dim gweithgar, hapus ac ysgogol sy'n gallu cyfrannu'n effeithiol at ddatblygiadiadau yn y cwricwlwm.• Cyfrannu tuag at weithgareddau ysgol gyfan.
Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol I D Hooson, wedi’i lleoli ym mhentref Rhosllannerchrugog. Mae croeso cynnes i chi ymweld â'r ysgol drwy wneud apwyntiad ymlaen llawn.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon rhugl eu Cymraeg
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth ar 01978 832950 neu e-bostiwch mailbox@hooson-pri.wrexham.sch.uk.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001
neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
DYDDIAD CAU: 19eg o Fedi 2019
CYFWELIADAU: Dyddiad i’w gadarnhau
↧