[CLOSING DATE: Fri, 18 Oct 2019] Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Athro/Athrawes Cyfnod Allweddol 2 – cyfnod mamolaeth
PENNAETH DYSGU AC ADDYSGU
Llawn Amser
MPR/UPR +TLR 2
Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llangollen, Wrecsam LL20 7LB 01691 600278/718426
mailbox@llanarmondc-pri.wrexham.sch.uk Pennaeth: Mrs Olwen Corben
Ysgol naturiol Gymraeg yw Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ym mhen uchaf Dyffryn Ceiriog sydd yn cynnig addysg ddwyieithog. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r plant sydd wedi cyfrannu’n helaeth at lwyddiant yr ysgol. Mae’r ysgol yn ran o ffederasiwn efo Ysgol Cynddelw, Glyn Ceiriog.
Mae'r Corff Llywodraethol eisiau penodi athro/athrawes Cyfnod Allweddol 2 dros gyfnod mamolaeth i ddechrau Ionawr 2019. Fe fydd y person apwyntir yn gyfrifol am arwain yr ysgol yn absenoldeb y pennaeth ac yn derbyn TLR 2 am y rôl. Mae cyfle yma am secondiad i athrawon profiadol.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, ysbrydoledig sy’n gyda’r dyhead i fod yn arweinydd ysgol, i ymuno â’r tim gweithgar sydd yma.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon profiadol ac hyderus gyda eu Cymraeg
Am fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod.
I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
Dyddiad cau : Hanner dydd 18/10/19
↧