Quantcast
Channel: Wrexham Council Vacancies
Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Arweinydd Gwasanaeth – Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (FTP-EXT)

$
0
0
[CLOSING DATE: Fri, 13 Dec 2019] Arweinydd Gwasanaeth – Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru Lefel G13 Graddfa £44,632 - £47,537 Dyma gyfle ardderchog i ymgymryd â swydd newydd a fydd yn gweithio ar draws chwe Awdurdod yng Ngogledd Cymru, sy’n ffurfio Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn, a hynny ar adeg o ddatblygiad a thyfiant i’r gwasanaeth. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn wasanaeth rhanbarthol sy’n recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr a dod o hyd i deuluoedd ar gyfer y chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru. Drwy weithio gydag aelodau o Fwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru, partneriaid strategol, a chydweithwyr o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, bydd gofyn i ddeiliad y swydd arwain ar gynllunio, datblygu a sicrhau gwelliant parhaus i’r Gwasanaethau Mabwysiadu ar draws y rhanbarth. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd arwain a rheoli’r gwasanaethau mabwysiadu mewn modd strategol, gan weithio’n fewnol ac yn allanol ar draws ffiniau gweithredol a sefydliadol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion, polisïau a gweithdrefnau statudol i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu statudol cost effeithiol ac o ansawdd uchel. Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf yn ysgrifenedig ac ar lafar, bydd gennych ymagwedd hyblyg ac addasadwy ac yn gallu teithio’n rheolaidd ar draws y rhanbarth a ledled Cymru i gynrychioli Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ar lefel strategol. Dyma gyfle ardderchog i arweinydd cadarnhaol sydd â sgiliau rheoli ac arwain cryf a phrofiad helaeth o ddarparu Gwasanaethau Mabwysiadu ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, a hynny ar adeg pan fydd y gwasanaeth yn gallu chwarae rhan allweddol yn y broses o siapio cyfeiriad a datblygiad y Gwasanaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Rhagfyr 2019. I gael unrhyw fanylion pellach ac i drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch â: Francine Salem Rheolwr y Gwasanaeth Diogelu ar 01978 295409 -Francine.salem@wrexham.gov.uk

Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Trending Articles



<script src="https://jsc.adskeeper.com/r/s/rssing.com.1596347.js" async> </script>