[CLOSING DATE: Fri, 10 Mar 2017] Ydych chi wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth modern, wedi’i ganolbwyntio ar y cwsmer?
Oes gennych chi’r sgiliau i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid ar y lefel uchaf bob amser ac yn credu mewn trin pawb fel unigolion? Oes gennych chi brofiad o fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cleientiaid, yn gallu delio â galwadau ac ymholiadau mewn modd proffesiynol ac amserol? A ydych yn ymrwymo i dechnoleg ddigidol a helpu cwsmeriaid i wneud y defnydd gorau ohono?
Mae'r gallu i siarad Cymraeg i safon dda yn hanfodol ar gyfer y swydd hon a fyddai'n addas ar gyfer rhywun sydd yn medru ar radd A-C iaith gyntaf TGAU Cymraeg ac wedi derbyn ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Yna gallech fod yn Ymgynghorydd Gwasanaethau Digidol i Gwsmeriaid fel rhan o Ganolfan Gyswllt y Cyngor.
Hoffem glywed gennych, os:
• Os ydych yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd rheng flaen.• Os oes gennych sgiliau cyfathrebu a chyfrifiadurol rhagorol.• Os ydych yn gyfforddus wrth ddefnyddio technoleg newydd mewn amgylchedd sy'n newid.• Os ydych yn awyddus i gyfrannu at amcanion y tîm.• Os ydych eisiau rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i bobl leol.• Os ydych yn deall pwysigrwydd cyfathrebu digidol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn ddigidol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau sy'n cynnwys defnyddio a monitro cyfryngau cymdeithasol, ymdrin â negeseuon e-bost ac ymholiadau ar-lein, sgyrsiau ar y we a chefnogi cwsmeriaid wrth ddefnyddio systemau Fy Nghyfrif a Fy Hysbysiadau y Cyngor.
Dylech fod yn gyfforddus yn egluro technoleg ddigidol mewn termau syml a chefnogi cwsmeriaid sy'n llai cyfarwydd â defnyddio'r cyfrwng hwn. Bydd yn rhaid bod ymgeiswyr hefyd yn gallu delio ag ystod eang o faterion, gan gynnwys gwybodaeth sensitif yn aml. Er y byddai gwybodaeth am Wasanaethau’r Cyngor yn fantais, bydd hyfforddiant cynhwysfawr yn cael ei ddarparu.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Rob Griffiths ar 292865.
I gael pecyn cais, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Adnoddau Dynol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY dros y ffôn 01978 292012, Cyfnewid Testun: 18001 01978 292012 neu anfonwch e-bost at hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu lawr lwythwch a llenwch ffurflen gais pdf sydd ar gael ar y wefan.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymr
↧