Quantcast
Channel: Wrexham Council Vacancies
Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Athro / Athrawes Blwyddyn 1 a 2 Ysgol Plas Coch

$
0
0
[CLOSING DATE: Wed, 18 Oct 2017] Ysgol Plas Coch Ffordd Stansty, Wrecsam, LL11 2BU 01978 311198 mailbox@plascochpri.wrexham.sch.uk Pennaeth: Mr. Osian Jones Nifer ar y gofrestr: 350 Athro / Athrawes Blwyddyn 1 a 2 Llawn Amser a pharhaol – Prif Raddfa Gyflog MPR/UPS Dyddiad Cychwyn: Ionawr 1af 2018 Rydym yn chwilio am athro / athrawes frwdfrydig i lenwi swydd yn addysgu yn un o ddosbarthiadau cymysg Blwyddyn 1 a 2 yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio’n agos efo gweddill staff Blynyddoedd 1 a 2 i gynnig addysg a phrofiadau o’r safon uchaf posib i’r disgyblion. Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Plas Coch wedi’i lleoli ar gyrion tref Wrecsam. Ers Medi 2013 mae’r ysgol yn ran o ffederasiwn efo Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r disgyblion sy’n cyfrannu’n helaeth at lwyddiant yr ysgol. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon rhugl eu Cymraeg. Cysyllter â’r Pennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â’r ysgol Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg. I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001 neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) DYDDIAD CAU: Dydd Mercher, Hydref 18fed CYFWELIADAU: Yn ystod wythnos yn cychwyn Hydref 23ain

Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Trending Articles



<script src="https://jsc.adskeeper.com/r/s/rssing.com.1596347.js" async> </script>