[CLOSING DATE: Tue, 21 Nov 2017] Ysgol Bro Alun,
Rhodfa Delamere,
Gwersyllt,
Wrecsam.
LL11 4NG
01978 269580
mailbox@broalun-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mr. Osian Jones
Nifer ar y gofrestr: 179
Athro / Athrawes Blwyddyn 1
Llawn Amser a pharhaol – Prif Raddfa Gyflog
Dyddiad Cychwyn: Ionawr 1af 2018 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny
Rydym yn chwilio am athro / athrawes frwdfrydig i lenwi swydd yn addysgu ym Mlwyddyn 1 yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio’n agos efo gweddill staff Y Cyfnod Sylfaen a’r ysgol gyfan i gynnig addysg a phrofiadau o’r safon uchaf posib i’r disgyblion.
Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Bro Alun wedi’i lleoli ar gyrion tref Wrecsam. Agorwyd yr ysgol ym Medi 2013 i gwrdd â’r galw lleol am addysg gyfrwng Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ran o ffederasiwn efo Ysgol Plas Coch, Wrecsam.
Gallwn gynnig adeilad ac adnoddau newydd o’r radd flaenaf ac awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r disgyblion sy’n cyfrannu’n helaeth at lwyddiant yr ysgol.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon rhugl eu Cymraeg.
Cysyllter â’r Pennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â’r ysgol
Mae pecynnau ymgeisio ar gael oddi wrth:
Y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol, Neuadd y Dref, Wrecsam,
LL11 1AY. Ffôn: 01978 297403. E-bost: hrservicecentre@wrexham.gov.uk.
DYCHWELWCH Y FFURFLENNI CAIS YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed
DYDDIAD CAU: Dydd Mawrth, Tachwedd 21ain
CYFWELIADAU: Dyddiad i’w gadarnhau
↧