[CLOSING DATE: Fri, 15 Dec 2017] Cymhorthydd Cefnogi Busnes
L04 £15,613 i £17,702
37 awr yr wythnos
Mae'r swydd hon o fewn Gwasanaethau Landlord yr Adran Tai, Gwarchod y Cyhoedd a'r Amgylchedd sy'n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella 11,500 o dai cyngor. Mae hefyd yn cynnwys Gwasanaethau Strategol Tai (Adnewyddu Tai, Cefnogi Pobl, Tai Fforddiadwy, Tai Sector Preifat), a Gwarchod y Cyhoedd (Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu).
Mae'r swydd wedi ei lleoli yn y Ganolfan Gwasanaethau Tai, o fewn y Tîm Cefnogi Busnes, sy’n derbyn ceisiadau am atgyweiriadau tai Cyngor dros y ffôn, drwy’r post ac yn electronig.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg i safon dda yn hanfodol ar gyfer y swydd hon a fyddai'n addas ar gyfer rhywun sydd yn medru ar radd A-C iaith gyntaf TGAU Cymraeg ac wedi derbyn ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant yn y defnydd o Gymraeg busnes os byddai hyn yn ofynnol.
I gael sgwrs am y swydd, cysylltwch â Gemma Jones, Rheolwr Cefnogi Busnes, ar 01978 315408.
I gael pecyn cais, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Adnoddau Dynol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY dros y ffôn 01978 292012, Cyfnewid Testun: 18001 01978 292012 neu anfonwch e-bost at hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu lawr lwythwch a llenwch ffurflen gais pdf sydd ar gael ar y wefan.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2017
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
↧