[CLOSING DATE: Mon, 11 Dec 2017] YSGOL BODHYFRYD
Ffordd Brynycabanau
WRECSAM
LL13 7DA
Ffôn: 01978 351168
Pennaeth Gweithredol: Miss Nerys Wyn Davies
Nifer ar y gofrestr : 410
Cymorthydd Dosbarth Lefel 4 - Ymddygiad ac Arweiniad
Cyfnod Sylfaen
Swydd barhaol - 30 awr yr wythnos
Yn eisiau ar gyfer Ionawr 2018
Mae’r ysgol yn chwilio am Gymorthydd Dosbarth Lefel 4 i weithio yn y Ddarpariaeth Adnoddedig yn y Cyfnod Sylfaen.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac ymroddgar sy’n llwyddo i weithio’n effeithiol mewn tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i weithio mewn ysgol hapus, gofalgar.
Mae’n bosib lawrlwytho pecyn cais o safle wê Cyngor Wrecsam trwy ddilyn y linc www.wrexham.gov.uk/jobs neu cysylltu gyda Canolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol trwy e bost, hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 297403.
Cysyllter â’r Pennaeth am ragor o fanylion ac am swydd ddisgrifiad llawn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001
neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
This is an advertisement a Level 4 classroom assistant at Ysgol Bodhyfryd
for which the ability to speak Welsh is essential.
DYDDIAD CAU : Dydd Llun, Rhagfyr yr 11eg 2017 am hanner dydd (12.00)
↧