[CLOSING DATE: Fri, 16 Nov 2018] Ysgol I D Hooson
Heol Caradog
Rhosllanerchrugog
LL14 2DX
Ffon:01978 832950
Pennaeth: Mr Rhodri R Jones
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 4 – Cymorth a Darpariaeth
Graddfa L06 £13,195 - £14,720 y flwyddyn
30 awr yr wythnos
YN YSTOD Y TYMOR A DIWRNODAU HYFFORDDIANT
I gychwyn Ionawr 7fed 2019
Hyd at 31ain Awst 2019 yn yr achos gyntaf
Mae’r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 4. Bydd rhan o’r rôl hon yn ategu at waith proffesiynol yr athrawon drwy gymryd cyfrifoldeb am y gweithgareddau dysgu o dan system oruchwyliaeth a gytunwyd. Gall hyn gynnwys:• Cynllunio paratoi a darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu am dymor byr gyda dosbarthiadau cyfan ar draws yr ysgol.• Cyfrannu tuag at monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd am lwyddiant, cynnydd a datblygiad y disgyblion. • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am rannu cyfrifoldeb wrth reoli a datblygu maes arbenigol yn yr ysgol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â’r Pennaeth ar y rhif uchod.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001
neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI’I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I’R PENNAETH YN YR YSGOL
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
DYDDIAD CAU: Hanner dydd, Tachwedd 16eg 2018
CYFWELIADAU: Yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 19eg o Dachwedd
↧