Quantcast
Channel: Wrexham Council Vacancies
Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Bryn Tabor (PTP - EXT)

$
0
0
[CLOSING DATE: Fri, 8 Mar 2019] YSGOL BRYN TABOR Heol Maelor Coedpoeth Wrecsam LL11 3NB Ffôn: 01978 722180 Pennaeth– Mr K Williams DIRPRWY BENNAETH Graddfa Reolaethol 6 - 10 Yn eisiau erbyn Medi 2019 Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn gwahodd ceisiadau am y swydd uchod gan ymgeiswyr egnïol ac ymroddgar sydd wedi profi eu hunain i fod yn athrawon effeithiol. Bydd y Dirprwy newydd yn cymryd cyfrifoldeb dosbarth ac yn gyfrifol am arwain datblygiad yr ysgol mewn nifer o feysydd. Mae’r ysgol yn ysgol benodol Cymraeg a gobeithir penodi person sydd â phrofiad yn y sector Gymraeg ac sydd yn frwdfrydig tros addysg a diwylliant Cymraeg. Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i ddatblygu’r ysgol ymhellach, gan barhau i godi safonau cyflawniad a sgiliau’r disgyblion. Rhydd hyn sialens i berson brwdfrydig, creadigol, dyfeisgar a hyblyg sydd â chyfraniad i’w wneud fel aelod ac arweinydd o dîm. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â’r Pennaeth, Mr Kevin Williams, er mwyn trafod gofynion y swydd. Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg. I wneud cais: lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan neu cysylltwch â Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG neu ffoniwch 01978 292012 Cyfnewid Testun 18001 neu e-bostiwch schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk FFURFLENNI CAIS I’W DYCHWELYD AT MR KEVIN WILLIAMS YN YR YSGOL Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) DYDDIAD CAU: Dydd Gwener Mawrth 8fed 2019

Viewing all articles
Browse latest Browse all 2325

Trending Articles



<script src="https://jsc.adskeeper.com/r/s/rssing.com.1596347.js" async> </script>